Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol BA (Anrh) (Sociology and Social Policy)
Cefndir y cwrs...
Mae cymdeithasegwyr yn ystyried natur gymdeithasol ein bywydau ac yn craffu ar berthynas pobl a grwpiau â’i gilydd. Mae’r cwrs gradd yn gofyn y cwestiynau mawr megis: sut mae cymdeithas yn cael ei threfnu, beth yw pwrpas y trefniadau yna a phwy sydd ar ei ennill?
Byddwn yn ystyried beth sy’n gwneud ein cymdeithas ni yng Nghymru ac Ewrop yn wahanol i gymdeithasau eraill ar draws y byd? Byddwn hefyd yn olrhain newidiadau mewn cymdeithas. Er mwyn ein cynorthwyo i lunio atebion byddwn yn cyflwyno y damcaniaethau mwyaf blaenllaw fel eich bod chi yn medru beirniadu a dod i’ch canlyniadau chi eich hun.
Gradd yw hon sydd yn defnyddio dealltwriaeth gymdeithasegol er mwyn eich ga…
There are no frequently asked questions yet. If you have any more questions or need help, contact our customer service.
Cefndir y cwrs...
Mae cymdeithasegwyr yn ystyried natur gymdeithasol ein bywydau ac yn craffu ar berthynas pobl a grwpiau â’i gilydd. Mae’r cwrs gradd yn gofyn y cwestiynau mawr megis: sut mae cymdeithas yn cael ei threfnu, beth yw pwrpas y trefniadau yna a phwy sydd ar ei ennill?
Byddwn yn ystyried beth sy’n gwneud ein cymdeithas ni yng Nghymru ac Ewrop yn wahanol i gymdeithasau eraill ar draws y byd? Byddwn hefyd yn olrhain newidiadau mewn cymdeithas. Er mwyn ein cynorthwyo i lunio atebion byddwn yn cyflwyno y damcaniaethau mwyaf blaenllaw fel eich bod chi yn medru beirniadu a dod i’ch canlyniadau chi eich hun.
Gradd yw hon sydd yn defnyddio dealltwriaeth gymdeithasegol er mwyn eich galluogi i ddeall a beirniadu sut mae cymdeithas yncyflenwi anghenion sylfaenol pobl drwy bolisi cymdeithasol. Byddwn yn archwilio polisïau o ran rhannu adnoddau (y system lles), rhywle i fyw (polisïau tai), hybu iechyd, a sicrhau cyfiawnder.
Byddwch yn cael cyfle i ymweld â’r Senedd a Senedd San Steffan fel rhan o fodiwl ar greu a dylanwadu ar bolisi cymdeithasol. Trwy fodiwlau arbenigol ym maes troseddeg, byddwn yn archwilio pam fod pobl yn troseddu a sut mae cymdeithas yn delio â’r canlyniadau.
Trydydd elfen y radd ydy dysgu dulliau ymchwil. Wrth ddeall sut mae darganfod ffeithiau trwy ymchwil byddwn yn arfogi myfyrwyr i ddeall a beirniadu’r hyn a gaiff ei dderbyn fel ffaith o ran polisïau cymdeithasol ac o ran ein dealltwriaeth o gymdeithas.
There are no frequently asked questions yet. If you have any more questions or need help, contact our customer service.
